Polisi Preifatrwydd
Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen ac Awen Trading Ltd (Grŵp Awen) yn cymryd eich preifatrwydd o ddifrif. Rydym wedi ymrwymo i gydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data bob amser wrth brosesu eich gwybodaeth bersonol. Ni yw rheolwr data unrhyw ddata personol rydych chi'n ei ddarparu i ni.
Nod yr hysbysiad preifatrwydd hwn yw amlinellu sut mae Grŵp Awen yn casglu, yn prosesu ac yn cadw'r data personol y byddwch efallai yn ei roi i ni pan fyddwch yn defnyddio ein gwefannau, pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer ein negeseuon e-bost, neu pan fyddwch yn prynu cynnyrch neu'n defnyddio gwasanaeth.
Nid yw ein gwefannau wedi'u bwriadu ar gyfer plant o dan 16 oed, ac nid ydym yn casglu data yn ymwneud â phlant yn fwriadol, ac eithrio Theatr Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr ac aelodau ifanc Llyfrgelloedd Awen, sy'n cael ei roi gan rieni/gwarcheidwaid aelodau.
Yr wybodaeth gyfreithiol lawn yw:
Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen. Elusen gofrestredig rhif 1166908 yng Nghymru.
Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn gwmni sydd wedi'i gofrestru yng Nghymru yn Nhŷ Bryngarw, Parc Gwledig Bryngarw, Brynmenyn, CF32 8UU. Rhif Cofrestru Cwmni 9610991.
Mae Awen Trading Ltd yn gwmni sydd wedi'i gofrestru yng Nghymru yn Nhŷ Bryngarw, Parc Gwledig Bryngarw, Brynmenyn, CF32 8UU. Rhif Cofrestru Cwmni 09619638.
At ddibenion deddfwriaeth Diogelu Data, y Rheolwr Data yw Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen (rhif cofrestru ICO ZA186896).
Bydd yr holl ddata personol a gesglir yn unol â defnydd y datganiad preifatrwydd hwn yn unig.
Gall Awen newid y polisi hwn o bryd i'w gilydd drwy ddiweddaru'r dudalen hon a dangosir rhestr o newidiadau mewn dogfen ar wahân, y gallwch ddod o hyd iddi yma.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr hysbysiad hwn, anfonwch neges e-bost i: support@awen-wales.com
Rheolwr Data a Manylion Cyswllt
Awen (y cyfeirir ato fel "ni" neu "ein" yn yr hysbysiad hwn) yw rheolwyr eich data personol.
Mae gennych hawl i wneud cwyn ar unrhyw adeg i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), awdurdod goruchwyliol y DU ar gyfer materion diogelu data (www.ico.org.uk).
Fodd bynnag, byddem yn hoffi'r cyfle i ymdrin â'ch pryderon yn y lle cyntaf, cyn i chi gysylltu â'r ICO.
Cysylltiadau Trydydd Parti
Gall ein gwefannau gynnwys dolenni i wefannau trydydd parti, ategion a chymwysiadau.
Drwy glicio ar y dolenni hyn, efallai y byddwch yn caniatáu i drydydd partïon gasglu neu rannu data amdanoch chi. Nid ydym yn rheoli'r gwefannau trydydd parti hyn ac rydym yn eich annog i ddarllen hysbysiad preifatrwydd pob gwefan rydych chi'n ymweld â hi.
Y data rydym yn ei gasglu
Rydym yn casglu gwybodaeth a ddarperir gennych ar lafar, yn ddigidol ac yn ysgrifenedig pan fyddwch chi’n gwneud y canlynol:
(a) prynu tocynnau neu archebu ar gyfer ein digwyddiadau neu weithdai; (b) llenwi ffurflenni ar ein gwefan neu'n bersonol; (c) gwneud cyfraniadau; (d) cofrestru ar gyfer cylchlythyr; (e) gwneud cais am swydd gyda ni; (f) gweithio i ni; (g) gwirfoddoli gyda ni; (h) holi am briodas, trefnu achlysur corfforaethol neu arbennig; (i) aros gyda ni (j) ymuno â'n gwasanaeth llyfrgell; (k) mynychu ein gwasanaeth hyfforddeion (l) gweithio i ni e.e. gweithwyr llawrydd (m) rhyngweithio â ni trwy'r cyfryngau cymdeithasol, e-bost, post, neges destun neu ffôn, neu’n defnyddio un o'n cwcis.
Efallai y byddwn yn casglu, defnyddio, cadw a throsglwyddo'r wybodaeth bersonol ganlynol amdanoch:
Data hunaniaeth e.e. enw cyntaf, enw olaf, teitl;
• Data cyswllt e.e. cyfeiriad bilio, cyfeiriad preswyl, rhifau ffôn, cyfeiriad e-bost;
• Data ariannol e.e. manylion cardiau talu;
• Data trafodiadau e.e. manylion tocynnau, cynhyrchion a gwasanaethau rydych chi wedi'u prynu neu eu benthyg gennym ni;
• Data technegol e.e. cyfeiriad IP, math o borwr, gosodiad lleoliad, dewisiadau cwcis (gweler isod);
• Data proffil e.e. enw defnyddiwr a chyfrinair, hanes prynu neu fenthyg, eich diddordebau, ymatebion i'r arolwg (oni bai eu bod yn ddienw);
• Data defnydd e.e. sut rydych chi'n defnyddio ac yn rhyngweithio â'n gwefannau, cynhyrchion a gwasanaethau a'ch presenoldeb yn ein digwyddiadau;
• Data marchnata a chyfathrebu e.e. os a sut hoffech dderbyn deunydd marchnata gennym ni a'n trydydd partïon, a'ch dull cyfathrebu; a dewisiadau;
• Delweddau CCTV;
• Gwybodaeth feddygol ac iechyd;
• Data cydraddoldeb.
Rydym yn casglu, yn defnyddio ac yn rhannu data cyfanredol megis data ystadegol neu ddemograffig at unrhyw ddiben. Gall data cyfanredol ddeillio o'ch data personol ond nid yw'n cael ei ystyried yn ddata personol mewn cyfraith gan nad yw'r data hwn yn datgelu eich hunaniaeth yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.
Rydym hefyd yn casglu categorïau arbennig o ddata personol oddi wrth unigolion sy'n gwneud cais i weithio yn Awen, gan gynnwys gwybodaeth am ethnigrwydd ac anabledd (os nad yw’r ymgeisydd yn darparu’r wybodaeth). Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon wrth fonitro ystadegau recriwtio yn unig.
Os ydym eisiau datgelu gwybodaeth am yr ymgeisydd i drydydd parti, er enghraifft i gael geirda neu i gael datgeliad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, ni fyddwn yn gwneud hynny heb roi rhybudd ymlaen llaw i chi, oni bai bod y datgeliad yn ofynnol yn ôl y gyfraith.
Pam y mae angen yr wybodaeth hon arnom
Byddwn dim ond yn defnyddio eich data personol pan ganiateir i ni wneud hynny yn gyfreithiol, er enghraifft:
• Pan fydd angen i ni ddarparu gwasanaeth cytundebol i chi e.e. prynu tocynnau neu roi llyfrau ar fenthyg;
• Pan fo'n angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau dilys ac nad yw eich hawliau sylfaenol yn drech na’r buddiannau hyn;
• Pan fydd angen i ni gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol neu reoleiddiol.
Os na fyddwch yn darparu'r data pan ofynnir amdano, efallai na fyddwn yn gallu cyflawni'r contract sydd gennym, neu yr ydym yn ceisio ymrwymo iddo gyda chi, er enghraifft, lle mae angen i chi archebu tocynnau ar gyfer digwyddiad. Yn yr achos hwn, efallai y bydd yn rhaid i ni ganslo cynnyrch neu wasanaeth yr ydym yn ei ddarparu i chi.
Efallai y byddwn yn prosesu eich data personol ar gyfer mwy nag un sail gyfreithiol yn dibynnu ar y diben penodol yr ydym yn defnyddio eich data ar ei gyfer. Anfonwch neges e-bost i support@awen-wales.com os hoffech gael manylion am y sail gyfreithiol benodol yr ydym yn ei defnyddio i brosesu eich data personol.
Sut rydym yn casglu eich data personol
Rydym yn defnyddio gwahanol ddulliau i gasglu data oddi wrthych ac amdanoch gan gynnwys:
RHYNGWEITHIADAU UNIONGYRCHOL
Cadw neu adnewyddu llyfr neu eitem arall o'r llyfrgell;
• Creu cyfrif ar ein gwefannau;
• Tanysgrifio i'n cylchlythyrau;
• Gofyn i ddeunydd marchnata gael ei anfon atoch;
• Cwblhau arolwg neu roi adborth;
• Gwneud cais am swydd yn Awen;
• Gwirfoddoli gyda ni;
• Cael eich cyfeirio at wasanaethau hyfforddeion;
• Adrodd am ddamweiniau a digwyddiadau
TECHNOLEGAU NEU RYNGWEITHIADAU AWTOMATIG
Pan fyddwch yn rhyngweithio â'n gwefannau, efallai y byddwn yn casglu data technegol am eich offer, eich ymddygiad pori a’ch gweithredoedd yn awtomatig. Rydym yn casglu'r data personol hwn gan ddefnyddio cwcis a thechnolegau tracio tebyg eraill fel picseli. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth hon i weinyddu ein gwefannau, tracio eich symudiadau o amgylch ein gwefannau, darparu hysbysebion wedi'u targedu a chasglu gwybodaeth ddemograffig a daearyddol amdanoch chi.
Efallai y byddwn yn derbyn data technegol amdanoch os byddwch yn ymweld â gwefannau eraill sy'n defnyddio ein cwcis ni neu dechnolegau tracio, fel system reoli'r llyfrgell.
Enghreifftiau o'r cwcis rydyn ni'n eu defnyddio:
• Cwcis dewisol – i gofio eich dewisiadau a'ch gosodiadau er mwyn darparu gwasanaeth gwell i chi;
• Cwcis diogelwch – at ddibenion diogelwch;
• Cwcis hysbysebu – i roi hysbysebion i chi a allai fod yn berthnasol i chi;
• Cwcis ymarferoldeb – i ddarparu gwell ymarferoldeb a phersonoli;
• Cwcis targedu – i greu proffil o'ch diddordebau a dangos hysbysebion perthnasol i chi ar wefannau eraill;
• Cwcis cyfryngau cymdeithasol – i'ch galluogi i rannu ein cynnwys gyda'ch ffrindiau a'ch rhwydweithiau.
Gallwch osod eich porwr i wrthod rhai neu bob un o gwcis y porwr, neu i'ch rhybuddio pan fydd gwefannau'n gosod neu'n cyrchu cwcis. Os ydych chi'n analluogi neu'n gwrthod cwcis, nodwch y gallai rhai rhannau o'n gwefannau ddod yn anhygyrch neu beidio â gweithredu'n iawn.
Enghreifftiau o'r picseli rydyn ni'n eu defnyddio:
• Pan fyddwn yn anfon cylchlythyrau e-bost at ein tanysgrifwyr, mae'r offer rydyn ni'n eu defnyddio fel Mailchimp a Dotdigital yn ychwanegu 'picsel' yn awtomatig er mwyn rhoi data i ni am 'gyfraddau agor' a 'chyfraddau clicio';
• Defnyddir picseli Meta i sicrhau ein bod yn dangos ein hysbysebion Facebook, Instagram a WhatsApp i'r bobl gywir ac yn mesur canlyniadau'r hysbysebion hyn trwy ddeall beth sy'n digwydd pan fydd pobl yn eu gweld
• Defnyddir picseli trosi i dracio pryniannau gwefan, cofrestriadau cylchlythyr, cliciau botwm, llenwi ffurflen, lawrlwytho dogfennau, galwadau a negeseuon WhatsApp a anfonir i rifau ffôn ar ein gwefannau, negeseuon e-bost a anfonir i gyfeiriadau e-bost ar ein gwefannau.
Efallai y byddwn yn derbyn data personol amdanoch gan wahanol drydydd partïon, llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a phartneriaid marchnata ar y cyd, gan gynnwys:
• Data hunaniaeth gan Facebook, asiantau tocynnau eraill;
• Data cyswllt gan Facebook, asiantau tocynnau eraill;
• Data proffil gan Facebook, QuestionPro;
• Data trafodiadau gan Spektrix, SirsiDynix, crowdEngage.
Sut rydym yn defnyddio eich data personol
Byddwn yn defnyddio data personol i gyflawni’r canlynol:
• I’n galluogi ni i ddarparu'r gwasanaethau a'r wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdanynt gennym ni, e.e. tocynnau, derbynebau, anfonebau, gwasanaethau hyfforddeion, digwyddiadau, gweithgareddau ac ati;
• Er mwyn galluogi trydydd partïon i brosesu trafodiadau cardiau credyd yn ddiogel, rydym yn anfon eich gwybodaeth bilio i'r un trydydd partïon i brosesu eich archebion a'ch taliadau cardiau credyd;
• I anfon negeseuon nad ydynt yn rhai marchnata atoch am ein gwasanaethau, gan gynnwys newidiadau dros dro neu barhaol i'n gwasanaethau, a newidiadau i'r polisi hwn;
• I gyflawni'r contract yr ydym ar fin ymrwymo iddo neu wedi ymrwymo iddo, a gorfodi cydymffurfiaeth â'n telerau ac amodau;
• I’n helpu ni i ddeall sut mae ein gwefan a'n gwasanaethau'n cael eu defnyddio;
• I'n galluogi ni i anfon gohebiaeth atoch, naill ai drwy e-bost neu'r post, a allai fod o ddiddordeb i chi, yn unol â'ch dewisiadau marchnata;
• Pan fo’n angenrheidiol er ein Buddiannau Dilys (neu fuddiannau trydydd parti) ac nad yw eich buddiannau a'ch hawliau sylfaenol yn drech na’r buddiannau hynny;
• Pan fo angen i ni gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol, broffesiynol, diogelwch neu reoleiddiol;
• Pan fo angen i ni amddiffyn ein hunain rhag atebolrwydd cyfreithiol a/neu ddiogelu ac amddiffyn ein hawliau neu eiddo;
• Mae delweddau CCTV yn cael eu cadw ar ein camerâu i wella diogelwch a helpu i atal a chanfod trosedd ac anhrefn. Oherwydd natur gwasanaethau Awen efallai y bydd rheswm hefyd i ddefnyddio deunydd CCTV at ddibenion eraill megis diogelu oedolion a phlant agored i niwed neu weithgaredd troseddol posibl;
• Gofynnir am wybodaeth bersonol ymgeisydd er mwyn monitro ystadegau recriwtio ac eithrio pan fydd ymgeisydd yn llwyddiannus. Pan fydd ymgeisydd yn dod yn gyflogai, mae'r wybodaeth a ddarperir ganddo yn rhan o'i ffeil bersonol. Mae hysbysiad preifatrwydd ar wahân ar waith ar gyfer prosesu data cyflogeion;
• I reoli eich lleoliad fel hyfforddai a darparu'r gwasanaethau a'r cymorth angenrheidiol.
Byddwn dim ond yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at y dibenion y gwnaethom ei chasglu ar eu cyfer, oni bai ein bod yn rhesymol o'r farn bod angen i ni ei defnyddio am reswm arall ac mae'r rheswm hwnnw'n gydnaws â'r diben gwreiddiol. Os bydd angen i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddiben nad yw'n gysylltiedig, byddwn yn esbonio'r sail gyfreithiol sy'n ein galluogi i wneud hynny.
Marchnata
Eich dewis chi yw p'un a ydych chi'n derbyn gwybodaeth farchnata gennym ni neu beidio a gallwch optio allan ar unrhyw adeg.
Eich dewis chi yw p'un a ydych chi'n derbyn gwybodaeth farchnata gennym ni neu beidio a gallwch optio allan ar unrhyw adeg. Byddwn yn anfon yr wybodaeth hon atoch drwy e-bost, post neu neges destun. Efallai y byddwn hefyd yn anfon neges e-bost uniongyrchol atoch y teimlwn y gallai fod o ddiddordeb i chi. Ni fyddwn yn cysylltu â chi at ddibenion marchnata oni bai eich bod wedi rhoi eich caniatâd i ni. Os nad ydych yn dymuno clywed oddi wrthym mwyach, anfonwch neges e-bost i marketing@awen-wales.com
Mae ein holl farchnata e-bost yn rhoi'r dewis i chi gael eich eithrio rhag derbyn gwybodaeth bellach gennym ni. Fel y nodwyd uchod, byddwch yn dal i dderbyn negeseuon e-bost gennym os oes angen i ni ddarparu gwasanaeth cytundebol i chi e.e. prynu tocynnau neu fenthyciad llyfr, neu os ydych wedi cyflwyno ffurflen ymholiad ar-lein.
Dadansoddeg
Pan fyddwch yn ymweld â'n gwefan, rydym yn defnyddio gwasanaeth trydydd parti, Google Analytics, i gasglu gwybodaeth gofnodi safonol y rhyngrwyd a manylion am batrymau ymddygiad ymwelwyr.
Rydym yn gwneud hyn i ddarganfod pethau fel nifer yr ymweliadau i wahanol rannau o'r safleoedd. Mae'r wybodaeth hon yn cael ei phrosesu mewn ffordd nad yw'n adnabod unrhyw un yn uniongyrchol. Nid ydym ni’n gwneud unrhyw ymgais i ddarganfod pwy yw'r rhai sy'n ymweld â'n gwefannau ac nid ydym yn caniatáu i Google wneud hynny. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth i adrodd ar nifer yr ymwelwyr, ac i wneud gwelliannau i'n gwasanaeth.
Cesglir yr wybodaeth hon dim ond os yw ymwelwyr yn optio i mewn. Mae'r wybodaeth a gesglir yn cael ei dosbarthu fel data personol oherwydd bod Google yn neilltuo dynodydd unigryw i bob ymwelydd. Nid ydym ni’n gwneud unrhyw ymgais i ddarganfod pwy yw'r rhai sy'n ymweld â'n gwefannau ac nid ydym yn caniatáu i Google wneud hynny.
Ailfarchnata
Rydym yn ailfarchnata gwasanaethau i hysbysebu ar wefannau trydydd parti ar ôl i chi ymweld â'n gwefannau ni. Rydyn ni, a'n cyflenwyr trydydd parti, yn defnyddio cwcis i hysbysu, optimeiddio a gweithredu hysbysebion yn seiliedig ar eich ymweliadau blaenorol â'n gwefannau.
Mae gwasanaeth ailfarchnata Google Ads yn cael ei ddarparu gan Google Inc. Gallwch optio allan o Google Analytics ar gyfer Hysbysebu Arddangos ac addasu hysbysebion Google Display Network trwy ymweld â thudalen Google Ads Settings: http://www.google.com/settings/ads. Mae Google hefyd yn argymell gosod ‘Google Analytics Opt-Out Browser Add-on’ - https://tools.google.com/dlpage/gaoptout - ar gyfer eich porwr gwe. Mae Google Analytics Opt-Out Browser Add-on yn rhoi'r gallu i ymwelwyr atal eu data rhag cael ei gasglu a'i ddefnyddio gan Google Analytics. I gael rhagor o wybodaeth am arferion preifatrwydd Google, ewch i dudalen Google Privacy & Terms: http://www.google.com/intl/en/policies/privacy/
Mae gwasanaeth ail-farchnata Facebook yn cael ei ddarparu gan Meta. Gallwch ddysgu mwy am hysbysebu sy’n seiliedig ar ddiddordeb gan Facebook trwy ymweld â https://www.facebook.com/help/164968693837950
I optio allan o hysbysebion sy'n seiliedig ar ddiddordeb gan Facebook, dilynwch y cyfarwyddiadau hyn gan Facebook: https://www.facebook.com/help/568137493302217. I gael rhagor o wybodaeth am arferion preifatrwydd Facebook, ewch i dudalen polisi data Facebook: https://www.facebook.com/privacy/explanation
Ffotograffiaeth
Rydym wedi asesu bod ein 'sail gyfreithiol' ar gyfer ffotograffiaeth, fideograffeg a recordio sain yn ein digwyddiadau a'n lleoliadau cyhoeddus yn un o 'fuddiant dilys'.
Gellir defnyddio cynnwys wedi'i recordio at ddibenion marchnata / hyrwyddo (digidol a thraddodiadol) a gwerthuso. Mae gennych hawl i optio allan o unrhyw ffotograffiaeth/fideograffeg/recordio sain ymlaen llaw; rhowch wybod i aelod o dîm Awen. Mae gennych hefyd yr hawl i wrthwynebu, naill ai cyn neu unrhyw bryd ar ôl i'r ddelwedd gael ei recordio. Pan godir gwrthwynebiadau ar ôl y digwyddiad, dylech anfon cais, gan egluro beth yr ydych yn ei wrthwynebu, i marketing@awen-wales.com a fydd yn ystyried y cais ac, os yw'n briodol, yn tynnu’r ddelwedd/fideo/sain ymaith.
Rhannu eich gwybodaeth
Bydd yr wybodaeth a roddwch i ni yn cael ei thrin yn gyfrinachol
Efallai byddwn yn datgelu eich gwybodaeth i drydydd partïon eraill sy'n gweithredu ar ein rhan at y dibenion a nodir yn y polisi, at ddibenion a gymeradwywyd gennych chi, mewn cysylltiad â rheoli trefniant cytundebol neu yn ôl y gyfraith, gan gynnwys i gyflenwyr sy'n darparu ein gwasanaethau marchnata, ariannol, tocynnau, rheoli llyfrgelloedd (gan gynnwys Spektrix, SirsiDynix, Secure My Booking), crowdEngage, Dotdigital, Mailchimp, Pipedrive, Catersoft a Little Hotelier), Partneriaid Llywodraeth Leol neu gyrff proffesiynol a meddalwedd sy'n gysylltiedig â rheoli eich cyflogaeth.
Mae gwybodaeth yn cael ei storio ar y gweinyddwyr a ddefnyddir gan drydydd partïon a ddewiswyd yn ofalus y gallent fod wedi'u lleoli y tu mewn neu'r tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd.
Rydym dim ond yn dewis partneriaid y gallwn ymddiried ynddynt. Byddwn dim ond yn trosglwyddo data personol os ydynt wedi llofnodi contract sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud y canlynol:
• cydymffurfio â gofynion deddfwriaeth diogelu data;
• trin eich gwybodaeth mor ofalus ag y gwnawn ni;
• defnyddio'r wybodaeth at y dibenion y cafodd ei darparu ar eu cyfer yn unig;
• caniatáu i ni gynnal gwiriadau i sicrhau eu bod yn gwneud yr holl bethau hyn.
Am ba hyd yr ydym yn cadw eich gwybodaeth
Rydym yn adolygu ein cyfnodau cadw data bob 2 flynedd a byddwn dim ond yn cadw eich data personol cyhyd ag sy'n angenrheidiol ar gyfer y gweithgaredd perthnasol, neu fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith (efallai y bydd gofyn cyfreithiol i ni ddal rhai mathau o wybodaeth), neu fel y nodir mewn unrhyw gontract perthnasol sydd gennym gyda chi.
Am ba hyd yr ydym yn cadw eich gwybodaeth
Rydym yn adolygu ein cyfnodau cadw data bob 2 flynedd a byddwn dim ond yn cadw eich data personol cyhyd ag sy'n angenrheidiol ar gyfer y gweithgaredd perthnasol, neu fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith (efallai y bydd gofyn cyfreithiol i ni ddal rhai mathau o wybodaeth), neu fel y nodir mewn unrhyw gontract perthnasol sydd gennym gyda chi.
Eich hawliau
Ar unrhyw adeg, mae gennych hawl i wneud y canlynol:
• Gofyn am fynediad at eich gwybodaeth bersonol (a elwir yn aml yn 'gais cyrchu gwrthrych data'). Mae hyn yn eich galluogi i dderbyn copi o'r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch a gwirio ein bod yn ei phrosesu'n gyfreithlon;
• Gofyn i ni gywiro unrhyw wybodaeth anghyflawn neu anghywir sydd gennym amdanoch;
• Gofyn am ddileu eich gwybodaeth bersonol, pan nad oes rheswm da i ni barhau i'w brosesu;
• Gwrthwynebu i ni brosesu eich gwybodaeth bersonol pan ydym yn dibynnu ar sail gyfreithlon;
• Gofyn am gyfyngu’r gwaith o brosesu eich gwybodaeth bersonol, er enghraifft pan fyddwn yn gwirio ei gywirdeb neu'n gwirio’r rheswm dros brosesu;
• Gofyn am drosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i barti arall (cludadwyedd data);
• Tynnu'ch caniatâd yn ôl (e.e. at ddibenion marchnata) ar unrhyw adeg.
Os hoffech arfer unrhyw un o'ch hawliau uchod, cysylltwch â support@awen-wales.com
Os hoffech gyflwyno cwyn ynghylch sut rydym wedi ymdrin â'ch data personol, gallwch gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data a fydd yn ymchwilio i'r mater.
Os nad ydych yn fodlon â'n hymateb neu'n credu nad ydym yn prosesu eich data personol yn unol â'r gyfraith, gallwch gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).
Ein Swyddog Diogelu Data yw Helen Sage a gallwch gysylltu â hi yn
Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol AwenTŷ Bryngarw, Parc Gwledig Bryngarw, Brynmenyn, CF32 8UU
Diogelwch Data
Rydym wedi rhoi mesurau diogelwch priodol ar waith i atal eich data personol rhag mynd ar goll yn ddamweiniol, cael ei ddefnyddio neu ei gyrchu'n mewn ffordd anawdurdodedig, ei newid neu ei ddatgelu.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel. Er mwyn atal mynediad neu ddatgeliad anawdurdodedig, rydym wedi rhoi gweithdrefnau ffisegol, electronig a rheolaethol ar waith i ddiogelu a sicrhau'r wybodaeth a gasglwn ar-lein rhag colled, camddefnyddio neu newid.
Mae enghreifftiau o'n mesurau diogelwch yn cynnwys y canlynol:
• Dim ond personél awdurdodedig sy'n cael cyrchu gwybodaeth am ddefnyddwyr ac rydym yn defnyddio technoleg diogelwch safonol y diwydiant (megis TLS / SSL, ond heb fod yn gyfyngedig iddi) i amgryptio gwybodaeth ariannol a phersonol rydych chi'n ei rhoi cyn iddi gael ei hanfon atom dros y rhyngrwyd;
• Bydd trydydd partïon dim ond yn prosesu eich data gyda’n cytundeb ni ac yn unol â chontractau;
• Systemau a gwybodaeth y mae’r mynediad atynt wedi’i reoli trwy lefelau a phrosesau awdurdodedig;
• Pan fo angen, byddwch yn cael cyfrinair sy'n caniatáu mynediad i systemau penodol sy'n dal data personol, eich cyfrifoldeb chi yw cadw'r cyfrinair hwn yn ddiogel drwy beidio â'i rannu ag unrhyw un;
• Rydym yn hyfforddi ein staff i fod yn ymwybodol o sut i drin gwybodaeth a beth i'w wneud pan fydd pethau'n mynd o chwith;
• Cedwir gwybodaeth cyhyd ag y bydd ei hangen arnom yn unig, oni bai bod angen ei chadw at ddibenion cyfreithiol neu i sicrhau na fyddwn yn cysylltu â chi os ydych wedi gofyn i ni beidio â gwneud hynny;
• Cedwir gwybodaeth bersonol cwsmeriaid cyhyd ag y bydd angen i ni ddarparu nwyddau, gwasanaethau neu wybodaeth i chi;
• Mae gwybodaeth bersonol / sensitif mewn cysylltiad ag ymgeiswyr yn cael ei chadw am gyfnod o 6 mis;
• Bydd yr holl ddata naill ai'n cael ei ddileu neu ei glirio;
• Delweddau CCTV – Bydd recordiadau digidol arferol yn cael eu cadw am gyfnod o 31 diwrnod ar yriant caled neu ddisg ac yna fe’u trosysgrifir;
• Ac eithrio at ddibenion tystiolaethol, ni fydd delweddau'n cael eu copïo. Mae'r holl ddeunydd a recordiwyd a ddarperir fel tystiolaeth yn cael ei drin yn unol â'r gweithdrefnau a ddiffinnir o dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol (PACE) a'r Weithdrefn hon i sicrhau parhad tystiolaeth ac archwilio llwybr clir.
Os ydych chi'n prynu eich tocynnau trwy Spektrix ar-lein, mae ein tudalennau archebu wedi'u hamgryptio i safon uchel sy'n golygu bod eich gwybodaeth yn ddiogel ac wedi'i diogelu rhag colled neu gamddefnydd.
Mae ein System Rheoli Llyfrgell SirsiDynix hefyd yn defnyddio technegau amgryptio ac atal ymyrraeth modern.
Rydym wedi sefydlu gweithdrefnau i ymdrin ag unrhyw achos o dor diogelwch data personol a amheuir a byddwn yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol am dor diogelwch pan fo’n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.
Newidiadau i'n Polisi Preifatrwydd
Bydd unrhyw newidiadau a wnawn i'n polisi preifatrwydd yn y dyfodol yn cael eu postio ar y dudalen hon a, phan fo’n briodol, fe’ch hysbysir drwy e-bost.
Cysylltu â ni
Dylid anfon unrhyw gwestiynau sy'n ymwneud â'r polisi hwn a'n harferion preifatrwydd i support@awen-wales.com