

Mae croeso cynnes iawn yn aros amdanoch yn Nhŷ Bryngarw
Gynt yn ffermdy o’r 15fed ganrif, mae Tŷ Bryngarw wedi cadw ei swyn hanesyddol drwy gydol ei weddnewidiad yn lleoliad crand a chain, lle mae ansawdd eithriadol a soffistigeiddrwydd steilus yn sicr.
Mae ein tîm hynod brofiadol yn angerddol ynglŷn â darparu’r priodasau gorau posibl a bydd yn gweithio’n agos gyda chi i sicrhau bod popeth yn rhedeg yn esmwyth ar eich diwrnod mawr.

Cefnlen berffaith
Gofalir am Dŷ Bryngarw gan elusen gofrestredig, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, sy’n gweithio’n galed i warchod a hybu’r fioamrywiaeth o amgylch ein lleoliad. Mae’r cyffiniau’n darparu cefnlen berffaith i’ch dathliadau i dynnu lluniau i’w trysori am flynyddoedd lawer.

PECYNNAU PRIODASAU YM MHOB TYMOR
Cysylltwch â ni i drefnu i weld y lleoliad
Byddem wrth ein bodd i roi taith arbennig o Dŷ Bryngarw i chi. Ymholwch i drefnu apwyntiad.
Ymholwch