
1937 yw’r flwyddyn ac nid yw pethau fel y dylen nhw fod ym mhentref prydferth Bryngarw. I ddechrau, mae rhywun wedi marw.
Mae'r weddw, Rose Stimper, sy'n cael ei hadnabod yn lleol fel 'Rhosyn Bryngarw' medi marw gan adael llawer iawn o arian.
Yn ei hewyllys mae hi wedi gadael cyfarwyddiadau pendant y dylai'r pentrefwyr gynnal cyfarfod cyffredinol ac y dylai unrhyw un sydd eisiau, gyflwyno ei syniadau ynglŷn â sut dylai'r arian gael ei ddefnyddio er lles y pentref. Dylai pawb wedyn bleidleisio, a bydd yr enillydd yn cael yr arian.
Mae hyn wedi achosi ymryson chwerw rhwng yr etifeddwyr posibl, gan arwain at glywed llawer o eiriau hallt a bygythiadau agored yn y lonydd, yn y Dog & Duck a hyd yn oed yn sgwâr y pentref.
Mae diwrnod y cyfarfod cyffredinol wedi cyrraedd ac mae'r ymgeiswyr sydd wedi cofrestru diddordeb gyda Chyngor y Plwyf, yn unol â chyfarwyddiadau'r weddw, yn paratoi i wneud eu syniadau'n hysbys i bawb.
I rai pobl roedd yr holl syniad o beth y gallen nhw ddefnyddio'r arian ar ei gyfer yn ddim byd mwy na thipyn o hwyl a chyfle i sefyll a dweud eu dweud...
Fodd bynnag, roedd eraill yn ei gymryd yn ddifrifol iawn, iawn, efallai y byddech chi'n dweud bod rhai hyd yn oed a allai cyflawni llofruddiaeth.
Ymynwch â ni yn Nhŷ Bryngarw dydd Sadwrn 25 Tachwedd i ddatrys dirgelwch pwy lofruddiodd Rosyn Bryngarw, oes gennych chi'r gallu i ddatgelu bradwr?
Mae'r noson yn cynnwys cinio tri chwrs a prosecco wrth gyrraedd cyn i'r dirgelwch ddechrau, pris y tocynnau yw £55 y pen.
Prynu tocynnau ar Awen Box Office wefan.