Helpwch ni i helpu ein planed, un briodas ar y tro.
Wyddoch chi, bod priodas arferol yn y DU yn cynhyrchu tua 14,500kg o CO2? I roi'r ffigur hwnnw mewn persbectif, mae'n cyfateb i 29 piano crand.
Ffigur ysgytwol, ond gallwch chi helpu i newid hyn...
Addurn ac Anrhegion
Mae priodasau cyffredin yn y DU yn defnyddio 18kg o blastig untro ac roedd tua 246,000 o briodasau yn y DU y llynedd yn unig, gan gynhyrchu tua 4,900 tunnell o blastig. Mae'r plastig hwn yn mynd i safleoedd tirlenwi ac o bosibl yn arllwys i'n cefnforoedd bob blwyddyn lle mae'n aros am gyfnod amhenodol. Trwy wneud addasiadau i'ch addurniadau a'ch syniadau am anrhegion, gallwch chi leihau'r ffigur hwn.
Arwyddion Croeso a Chynlluniau Bwrdd
Rydym yn gweld cynnydd aruthrol mewn arwyddion croeso persbecs a phlastig a chynlluniau bwrdd yn ein lleoliad, ac yn anffodus y rhan fwyaf o'r amser dim ond un pwrpas sydd gan y rhain ar un diwrnod, oni bai ei fod yn cael ei gadw fel cofrodd. Rydym yn eich annog i ystyried defnyddio deunyddiau mwy cynaliadwy a dod o hyd i addurnwyr lleoliadau sy'n rhannu'r un gofal a phryder am yr amgylchedd.
Ffafrau Priodas
Ystyriaeth arall yw'r deunydd a ddefnyddir i gynnwys eich ffafrau, boed yn ffafrau alcoholig bach mewn poteli plastig neu pice ar y maen wedi'u lapio mewn seloffen. Trwy newid y rhain i boteli gwydr a blychau cardfwrdd, rydych chi'n helpu ein hamgylchedd.
Confetti
Hyd yn oed os yw'r blwch yn nodi 'bioddiraddadwy' gall gymryd amser hir iawn i gonffeti papur dorri i lawr. Y conffeti gorau y gallwch chi ei ddefnyddio yw petalau blodau sych, a dyma'r unig gonffeti rydyn ni'n ei ganiatáu i helpu i amddiffyn ein parcdir hardd.
Gemau Gardd
Os ydych chi'n ystyried gemau i'ch gwesteion eu defnyddio ar ein lawnt flaen, rydym yn annog llogi'r rhain oddi wrth gyflenwr sydd ddim yn defnyddio plastig. Trwy eu llogi, rydych chi'n gwybod y cânt eu defnyddio dro ar ôl tro.
Gwerddon Blodau
Defnyddir hwn gan nifer o werthwyr blodau i ddal eich blodau. Mae ewyn blodau yn blastig ac oherwydd ei strwythur ewyn cellog, gall friwsioni'n hawdd yn ddarnau microsgopig, gan ychwanegu at broblem ficro blastigau fyd-eang. Nid yw ewyn blodau yn fioddiraddadwy sy'n golygu y bydd yn bodoli am gyfnod amhenodol o amser. Ystyriwch hyn wrth ddewis eich gwerthwr blodau, gan y byddai hyn yn unig yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'n planed.
Os byddai’n well gennych beidio â mynd â’ch blodau adref gyda chi ar ôl eich diwrnod arbennig, byddwn yn eu rhoi i gartref nyrsio lleol er mwyn iddynt allu cael bywyd arall a bywiogi diwrnod rhywun arall.
Haenau Cacen Ffug
Tuedd gyffredin iawn yr ydym yn ei gweld yw'r defnydd o haenau cacennau ffug polystyren ar gyfer y rhai sydd eisiau haen gacennau ychwanegol heb y gost ychwanegol. Dyma ddeunydd arall a fydd yn bodoli am gyfnod amhenodol, y gellir ei atal. Mae torri'r gacen yn symbol o'r ymrwymiad sydd gennych i'ch gilydd, felly trefnwch gacen heb yr haen ffug yn symbol o’r ymrwymiad sydd gennych i helpu'r blaned.
Balwnau a Fflip-fflops
Does dim angen dweud y gall balwnau gael effaith andwyol ar ein hamgylchedd, hyd yn oed rhai bioddiraddadwy! O ran fflip-fflops, rydym yn deall yn llwyr y teimlad hwnnw tua diwedd noson hir ar y llawr dawnsio, pan fyddwch chi'n ysu i dynnu'ch sodlau, ond mae fflip-fflops untro hefyd yn cyfrannu'n aruthrol at faint o blastig untro a gynhyrchir gan un briodas.
Teithio
Oes gennych chi nifer o westeion a fydd yn ymuno â chi ar gyfer eich diwrnod arbennig, yn teithio o bell? Yn hytrach na theithio mewn ceir ar wahân, ystyriwch drefnu bws neu annog pobl i rannu car i helpu i leihau eu hôl troed carbon.
Beth ydym ni'n ei wneud i helpu?
Yn ogystal â gweithredu’r uchod, rydym hefyd wedi bod yn edrych ar ein cynigion cegin i weld sut arall y gallwn helpu.
Wyddoch chi, mae coedwigoedd yn gorchuddio 30% o dir y ddaear, ac amaethyddiaeth yw prif achos datgoedwigo, h.y. soi ar gyfer bwyd anifeiliaid/olew palmwydd. Gellid dileu fforestydd glaw mewn dim ond can mlynedd ac mae cyfradd y datgoedwigo yn cyfateb i 30 cae pêl-droed, bob munud.
Gyda hyn mewn golwg, ynghyd â'n Prif Gogydd Gweithredol, rydym wedi addo gwneud dewisiadau bwyd mwy cynaliadwy fel defnyddio cynhyrchion a chynhwysion a dyfir yn lleol; o erddi Parc Gwledig Bryngarw, cyflenwyr organig lleol, cig buarth a chig a chynnyrch llaeth o ffynonellau moesegol, ffrwythau a llysiau tymhorol a lleihau a thorri allan unrhyw gynnyrch olew palmwydd.
Rydym wedi creu bwydlenni gan ddefnyddio bbwyd wedi’i wneud o blanhigioni leihau dyblygu a gwastraff, rydym hefyd wedi lleihau'r defnydd o haenen lynu, gan ddisodli hyn â phecynnu wedi'i ailgylchu neu ddeunydd pacio arall y gellir ei ailgylchu. Os bydd unrhyw wastraff, byddwn yn anfon nwyddau sych dros ben i sefydliadau elusennol a banciau bwyd lleol.
Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb moesegol a moesol tuag at ein planed, y bobl a’r bywyd gwyllt sy’n byw ynddi ac at genedlaethau’r dyfodol.
Trwy ystyried a gweithredu newidiadau mwy cynaliadwy i'ch cynlluniau priodas, rydych chi'n mynd i helpu i achub y blaned un cam ac un briodas ar y tro.
Rydym eisoes yn chwarae ein rhan, helpwch ni i wneud gwahaniaeth hyd yn oed yn fwy trwy chwarae eich rhan chi hefyd. Rydyn ni yn hyn gyda'n gilydd a gyda'n gilydd mae'n lle hardd i fod.