
Pan nad swydd yn unig yw hi, ond angerdd. Dyma'r bobl y tu ôl i'r llenni sy'n gwneud i’ch diwrnod perffaith ddigwydd.
Gyda mwy na 38 mlynedd o brofiad yn rheoli digwyddiadau a gwasanaeth cwsmeriaid ar y cyd, gallwn addo dim byd ond y gorau ar eich diwrnod arbennig.
Bliss Kelsall - Rheolwr Cyffredinol
"Fy enw i yw Bliss a fi yw’r Rheolwr Cyffredinol yn Nhŷ Bryngarw. Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i alw Bryngarw hardd yn swyddfa i mi ers wyth mlynedd ac mae fy angerdd am y lleoliad yn parhau i dyfu o flwyddyn i flwyddyn. Mae'r angerdd hwn hefyd yn fy ysgogi i wneud Tŷ Bryngarw yn un o'r lleoliadau priodas a digwyddiadau gorau yn ne Cymru.
Rydym wedi ein lleoli yng nghanol Parc Gwledig Bryngarw, ac rwyf wedi fy amgylchynu gan y tîm mwyaf gwych sy'n rhannu'r un angerdd am y tŷ a'r diwydiant yr ydym yn gweithio ynddo. Rwyf hefyd yn falch o weithio i gangen fasnachu Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen; elusen gofrestredig sydd â'r nod o wella bywydau pobl. Mae pob digwyddiad a gynhelir yn Nhŷ Bryngarw yn cyfrannu at yr elusen a does dim teimlad gwell na gwneud swydd sydd hefyd yn eich galluogi chi i 'wneud daioni' i gymunedau lleol ynghyd â darparu profiad cofiadwy o’r radd flaenaf i’n cyplau, cwsmeriaid a gwesteion.”
Naomi McKenzie - Rheolwr Priodasau a Digwyddiadau
“Fy enw i yw Naomi a fi yw Rheolwr Priodasau a Digwyddiadau Tŷ Bryngarw. Dechreuais weithio yma yn ôl yn 2016 ac mae gen i dros wyth mlynedd o brofiad yn gweithio yn y diwydiant digwyddiadau, dramor ac yn y DU.
Yr hyn rwy’n dwlu arno fwyaf am weithio yn Nhŷ Bryngarw yw fy mod yn cael chwarae rhan yn un o’r dyddiau mwyaf arbennig ym mywyd person. Rwy'n teimlo mor falch o bob priodas y cefais y pleser o'i chydlynu. Rwyf wrth fy modd â’r lleoliad hardd rwy’n cael gweithio ynddo a bod yn rhan o dîm mor wych!”
Demi Ford - Cydlynydd Priodasau a Digwyddiadau
"Fy enw i yw Demi ac rydw i'n un o Gydlynwyr Priodasau a Digwyddiadau Tŷ Bryngarw. Rwyf wedi gweithio yma ers mis Mawrth 2022 ac er fy mod yn newydd i’r diwydiant priodasau, mae gennyf dros ddeng mlynedd o brofiad gwasanaeth cwsmeriaid.
Dw i wrth fy modd yn gweithio yn Nhŷ Bryngarw gan fy mod yn mwynhau helpu ein cyplau i brofi'r hud a lledrith yma o'u hymweliad cyntaf erioed hyd at gydlynu eu diwrnod arbennig. Mae Tŷ Bryngarw wedi ei leoli yn y parc gwledig mwyaf delfrydol, tymor yr Hydref yw fy hoff gefnlen. Dw i wir yn mwynhau bod yn rhan o dîm mor wych!”
Louise Moth - Cydlynydd Priodasau a Digwyddiadau
"Fy enw i yw Louise ac rwyf wedi bod yn Nhŷ Bryngarw ers chwe mis bellach, fodd bynnag, rwyf wedi gweithio yn y diwydiant yn chwarae rhan yng nghynlluniau priodas cyplau ers ychydig dros wyth mlynedd.
Efallai fy mod i’n swnio’n rhagfarnllyd ond Bryngarw yw fy hoff leoliad o’r rhai yr wyf wedi gweithio ynddyn nhw o bell ffordd, Rwy'n teimlo'n ffodus iawn i gael fy amgylchynu gan y tiroedd hyfryd, yn gweithio o fewn y tŷ hardd a bod o gwmpas y bobl wych sydd y tu mewn.
Rwyf wrth fy modd yn cwrdd â chyplau newydd pan fyddant yn edrych ar y tŷ am eu lleoliad priodas posibl, yn enwedig ar ôl dyweddïo’n ddiweddar, er mwyn gallu rhannu eu cyffro ar gyfer y daith briodas o’u blaenau.”