Beth mae’r cyflenwyr yr ydym yn eu hargymell yn ei ddweud amdanom ni?
“Tynnais i luniau priodas yma ym mis Tachwedd 2022, roedd y staff yn gyfeillgar iawn tuag ataf a chefais bryd o fwyd gwych. Roedd goleuo'r lleoliad yn wych a gwnaeth hyn hi’n bosibl i mi greu lluniau rhagorol, roedd fy nghwpl yn hapus iawn gyda'r canlyniadau. Roedd tiroedd Tŷ Bryngarw yn wych ac eto yn caniatáu ar gyfer lluniau gwych.
Fel y soniwyd, roedd staff Bryngarw yn wych tuag at yr holl gyflenwyr, byddwn yn ei argymell yn fawr i unrhyw gwpl sy'n chwilio am leoliad priodas bendigedig."
"Beth i'w ddweud am Dŷ Bryngarw... fel gwerthwr blodau priodas dwi'n gweld y da, y drwg a'r hyll, a diolch byth, Bryngarw, yn bendant, ydi'r da. Mae’r tŷ ei hun yn brydferth ac yn bopeth y gallech ei ddymuno ar gyfer eich diwrnod arbennig, ond yr hyn sy’n gwneud y lleoliad yn fwy arbennig byth yw’r tîm y tu ôl iddo. Mae Bliss a'i thîm bob amser yn fy nghroesawu â breichiau agored, does dim byd byth yn broblem a mwy na hynny, gwn fod hyn yn cael ei gario drwodd i'w cyplau a'u gwesteion, ac nid dim ond i gyflenwyr. Mae bod â thîm gofalgar yn gwneud y lleoliad yn un gwych!"
"Rydw i wedi bod yn dod yn ôl ac ymlaen i dynnu lluniau o briodasau ym Mryngarw ers 15 mlynedd bellach ac rydw i'n dal wedi fy syfrdanu gan y gwelliannau cyson a wneir i'r lleoliad. Mae bob amser yn bleser cerdded drwy'r drws ar fore priodas a chael eich cyfarch â gwên a chroeso cynnes gan y tîm. Mae popeth bob amser ynmynd yn ddidrafferth, mae'r bwyd yn flasus ac rwyf wrth fy modd yn herio fy hun i ddod o hyd i fannau prydferth newydd yn y tiroedd ar gyfer lluniau."
"Does dim amheuaeth fod Bryngarw yn lleoliad priodas bendigedig. Serch hynny, mae gwir hud unrhyw briodas yn y manylion. Y cyffyrddiadau bach sy'n trawsnewid priodas dda yn un wych a chofiadwy ac mae staff Bryngarw yn anhygoel am wneud hyn!"
"Rydym mor ffodus i fod yn gyflenwr sy’n cael ei argymell ar gyfer Tŷ Bryngarw. Mae'r lleoliad yn syfrdanol ac mae'r staff yn rhyfeddol. Mae’r gwaith sy’n mynd ymlaen y tu ôl i’r llenni gan Bliss, Naomi a gweddill y tîm i sicrhau bod eich priodas yn mynd nid yn unig yn unol â’r cynllun ond yn rhagori ar ddisgwyliadau yn eithriadol.
Pan fyddwn yn diffodd y goleuadau ac mae'n amser am y parti, mae'r awyrgylch sydd eisoes wedi'i gynhyrchu trwy gydol y dydd yn gwneud ein gwaith yn hawdd iawn. Mae pawb yn barod i gael amser da ac i godi i ddawnsio, mae'n wirioneddol yn un o'r lleoliadau gorau sydd o gwmpas!"
"Mae Tŷ Bryngarw yn lleoliad priodas anhygoel wedi’i leoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn ne Cymru. Mae'r tiroedd yn syfrdanol, ac mae'r staff yn broffesiynol a chymwynasgar. Mae'r lleoliad ei hun yn anhygoel ac yn lleoliad perffaith ar gyfer diwrnod priodas cofiadwy.
Mae'r staff yn hynod o gyfeillgar a chymwynasgar ac yn gwneud llawer o ymdrech i sicrhau bod eich diwrnod yn bopeth yr oeddech chi’n breuddwydio y byddai. Mae'r staff hefyd yn frwd dros sicrhau bod eich lluniau'n berffaith, mae ganddyn nhw ddigonedd o opsiynau ar gyfer ychwanegu cyffyrddiadau arbennig i'ch lluniau priodas.
Mae'r lleoliad ei hun yn syfrdanol, gyda gerddi hyfryd a digon o gefnlenni ar gyfer tynnu lluniau hardd sy'n ychwanegu at luniau priodas rhamantus. Mae'r ystafelloedd y tu mewn i'r tŷ hefyd yn gain ac yn gefndir perffaith ar gyfer lluniau.
Ar y cyfan, mae Tŷ Bryngarw yn lleoliad priodas ardderchog gyda chefndir hardd a staff cyfeillgar sy'n ymroddedig i'ch helpu chi i gael y diwrnod gorau posibl. Mae'r lleoliad yn berffaith ar gyfer unrhyw un sy'n edrych am ddiwrnod priodas cofiadwy a hardd."