Dathliadau ar gyfer pob achlysur
O benblwyddi 1af i benblwyddi’n 100 oed, Tŷ Bryngarw yw'r lleoliad perffaith i gynnal partïon ar gyfer pob carreg filltir!
Mae ein pabell fawr brydferth yn eistedd 100 o bobl, gyda lle i hyd at 120 o westeion, ac mae ein DJ preswyl ar gael ar gyfer pob parti preifat.
Bydd pob parti sy’n cael ei drefnu yma yn cynnwys ein llawr dawnsio derw, llieiniau bwrdd gwyn, napcynau a llestri gwydr, bar wedi'i staffio, a llestri a chyllyll a ffyrc os bydd angen arlwyo. Rydym yn cynnig amrywiaeth o opsiynau arlwyo gwahanol, pob un wedi'i baratoi gan ein cogyddion yn defnyddio cynnyrch lleol, gan gynnwys cynnyrch wedi'u dewis o'n gerddi ni!
Bydd cydlynydd digwyddiadau penodol yn gweithio gyda chi i gynllunio'ch digwyddiad perffaith a bydd wrth law i argymell cyflenwyr, o chwarae meddal, i arddangosfeydd balŵn a llunflychau.
Os nad ydych am i'r dathliadau ddod i ben, gallwch hefyd aros dros nos, gyda 14 ystafell ar gael yn y prif dŷ ac ystafelloedd ychwanegol ar gael yn ein Coetsiws, a brecwast swmpus Cymreig wedi'i gynnwys y bore canlynol – mae angen o leiaf 5 ystafell i archebu lle.
Am fwy o wybodaeth a thrafod eich digwyddiad gyda'n tîm, cysylltwch â ni:
E-bost: events@bryngarwhouse.com
Ffôn: 01656 729009
Llenwch ffurflen ymholi.
Trefnwch gyda ni a gwnewch wahaniaeth i fywydau pobl leol. Rheolir Tŷ Bryngarw gan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, elusen gofrestredig. Pan fyddwch yn trefnu eich digwyddiad gyda ni, rydych yn cyfrannu at yr elusen, a'i nod yw gwneud bywydau pobl yn well a hefyd gefnogi ein dau brosiect ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu, Wood-B a B-Leaf.