
Pecyn arbennig i'r rhai hynny sy'n methu aros i briodi eu cariad.
Dydy penderfynu priodi ar fyr rybudd ddim yn golygu bod angen i chi gyfaddawdu ar gael priodas eich breuddwydion mewn lleoliad hardd.
Yn Nhŷ Bryngarw, rydyn ni'n gweld mwy o gyplau sydd wedi dyweddïo yn dymuno priodi heb oedi ac yn chwilio am ddyddiadau sydd ar gael yn 2023.
Rydyn ni wedi creu pecyn arbennig ar gyfer y dyddiadau sydd gennym ni ar ôl yn 2023, lle gall cyplau fod ar eu hennill drwy arbed rhywfaint o arian ond cael y profiad llawn ym Mryngarw hefyd diolch i'n tîm priodasau gwych.
Dan arweiniad ein Rheolwr Cyffredinol, Bliss, mae gan ein tîm priodasau angerddol brofiad helaeth yn y diwydiant yn y DU a thramor. Bydd eich cydlynydd priodasau penodedig gyda chi bob cam o'r ffordd o ddewis y dyddiad i gadarnhau manylion a sicrhau bod popeth yn mynd yn ddidrafferth ar eich diwrnod arbennig.
I arbed mwy o amser byth i chi, gallwn argymell llu o gyflenwyr priodasau proffesiynol o ffotograffwyr a chyflenwyr blodau i artistiaid colur, DJs, a phobl i wneud y gacen.
Ydy dyddiad delfryol eich priodas ar gael? Peidiwch ag oedi, cysylltwch â ni heddiw i wybod mwy am ein pecynnau priodasau sydyn arbennig, yn dechrau o £10,000.
- Dydd Gwener 8 Medi
- Dydd Sadwrn 16 Medi
- Dydd Sadwrn 30 Medi
- Dydd Gwener 3 Tachwedd
- Dydd Gwener 17 Tachwedd
- Dydd Sadwrn 2 Rhagfyr
- Dydd Sadwrn 9 Rhagfyr
Photo credit: Lloyd Williams Photography